Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno canllawiau i awdurdodau addysg lleol ar uno a chau ysgolion yn ymwneud ag ysgolion pob oed (hy ysgolion sy'n cynnig addysg gynradd, uwchradd ac ôl-16 ar yr un safle).
Gofynnwn i ganllawiau o'r fath:
¾ atal awdurdodau lleol rhag creu ysgolion ar ddau safle neu ragor, yn ymwneud ag ysgolion pob oed, os oes raid teithio dros 10 milltir rhwng y safleoedd.
¾ atal awdurdodau lleol rhag creu ysgolion ar ddau safle neu ragor, yn ymwneud ag ysgolion pob oed, cyn adleoli i un safle newydd, oni bai bod yr un safle newydd honno'n gallu darparu addysg i ddisgyblion o bob oed;
¾ cydnabod mai dymuniad rhai rhieni a disgyblion yw cael ysgol pob oed a'i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ateb y galw am ysgolion o'r fath os oes digon o alw amdanynt;
¾ hyrwyddo ymdrechion i sefydlu ysgolion pob oed yng Nghymru ac i sicrhau eu bod yn parhau;
¾ sicrhau nad yw disgyblion, o ganlyniad i benderfyniad i gau neu uno ysgol, yn ymwneud ag ysgol pob oed, yn cael eu gorfodi i deithio dros 45 munud i ysgol sy'n darparu addysg ffydd addas.
Prif ddeisebydd: Dawn Docx
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 24 Medi 2013
Nifer y llofnodion: 10